Cymraeg English

Adolygiadau Dreigiau'r Dyffryn


Mae fy merch wrth ei bodd yn Dreigiau’r Dyffryn. Mae’r staff yn groesawgar, amrywiaeth eang o offer yn y gampfa a mannau i rieni wylio. Mae fy merch wedi datblygu llawer o sgiliau ers iddi ymuno. Mae’r plant yn ffodus iawn o’r cyfleoedd mae’r clwb yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn. Diolch.

Gwawr, Llandygai - Oct 2024


Mae'r ddau blentyn wrth ei bodd efo'i gwersi yn Nreigiau'r Dyffryn. Criw da o hyfforddwyr sy'n cael y gorau allan o'r plant. Y cystadleuthau clwb a'r cyfleoedd eraill fel Faerial a disgos gymnasteg yn rhoi profiadau gwych.

Rh H J, Llanllechid - Oct 2024


Mae Dreigiau’r Dyffryn yn glwb gymnasteg gwych. Mae’n hwyl dysgu a gwella sgiliau efo ffrindiau a hyfforddwyr clên. Roedd y gweithdy Faerials yn anhygoel a’n gyfle gwych i wneud rhywbeth gwahanol dros y penwythnos. Roedd pawb o bob oed yn gallu cymryd rhan.

Alys, Tregarth - Oct 2024


My daughter loves her time at gymnastics. She has been a member for many years and the coaches and her friends are like a second family to her. She has learnt so much through her sessions and events.

Lou - Oct 2024


Mae cati wedi rili enjoio fo ac yn edrach ymlaen cael y cyfle i neud o eto.

H.W, Bethesda - Oct 2024


Mae Lliwedd yn mwynhau pob eiliad o'r amser mae'n treulio yn y clwb yn wythnosol ac yn hoffi dangos y sgiliau gymnasteg mae hi wedi ddysgu pan yn ôl adra! Clwb gwych ar gyfer datblygu sgiliau gymnasteg i blant.

Ll.F., Llanberis - Oct 2024


My daughter Izzy has been a member at Dreigiau’r Dyffryn for a year now and she has thoroughly enjoyed her time with the club. Her gymnastics skills have developed so well, and she really enjoys the competitions and extra sessions. The club is inclusive, extremely well run and encouraging of children of all abilities to progress and excel. Diolch Dreigiau’r Dyffryn!

EA, Menai Bridge - Oct 2024


Mae fy merch 7 oed wedi bod yn mynychu’r clwb ers rhai blynyddoedd bellach. Rwyf yn hynod hapus gyda’i datblygiad o ran hyder ac o ran datblygu sgiliau newydd. Mae'r hyfforddwyr yn amyneddgar ac yn gefnogol, gan sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud eu gorau. Mae'r dosbarthiadau'n ddigon bach i bob plentyn gael sylw unigol, ond ar y llaw arall yn ddigon mawr i wneud ffrindiau newydd ac i gyd-weithio. Mae’r gampfa ei hun yn lân, yn llawn offer o safon ac mae diogelwch bob amser yn flaenoriaeth.

Ffion - Oct 2024


A great Faerial workshop and Olivia had a lovely time thank you!

SB, Bangor - Oct 2024


Moli enjoys coming to gymnastics class every week and she absolutely loved the Faerial experience on Saturday.

Ffion Harben, Bangor - Oct 2024