Goleuadau Arbed Ynni Newydd
Diolch yn fawr i HJT Electrical am wneud gwaith gwych yn newid ein goleuadau fflwroleuol i oleuadau LED arbed ynni newydd yn uned 6.
Mae'r tiwbiau 52 x 56W (sy'n defnyddio 2.9kW/awr) wedi'u disodli gan oleuadau LED ynni 14 x 60W a fydd yn arbed 70% i Dreigiau'r Dyffryn ar gost goleuo'r uned.
Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth hael Elusen Ogwen. Mae Elusen Ogwen yn cefnogi mentrau a fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau Dyffryn Ogwen. Mae’n gwneud hynny drwy ddosbarthu’r elw o gynlluniau ynni Ynni Ogwen.
Diolch Elusen Ogwen!
17/01/23