• Sesiynau Gymnasteg
Cymraeg English

Sesiynau Gymnasteg

Sesiwn Rec

Sesiynau gymnasteg awr, lle gallwch roi cynnig ar yr holl offer yn y gampfa mewn ffordd ddiogel ond pleserus.

Sesiwn "Little Leopards"

Sesiwn gymnasteg lle gall gymnastwyr iau ddatblygu eu sgiliau mewn amgylchedd mwy strwythuredig.

Sesiwn Sgwad "Mini Dragons"

Sesiwn gymnasteg dwy awr ar gyfer aelodau iau y sgwad sy'n dangos potensial.

Sesiwn "Powerful Panthers"

Sesiynau gymnasteg dwy awr ar gyfer gymnasteg lefel ganolradd sydd eisiau amser hyfforddi ychwanegol. Sesiwn wedi rhannu yn gyfartal rhwng y llawr a'r offer.

Pob Sgwad Gymnasteg

Sesiwn i holl gymnastwyr y Sgwad fynychu a hyfforddi a dysgu gyda'i gilydd.

Sesiwn Freestyle

Mae ein dosbarth Freestyle yn gyfuniad o gymnasteg draddodiadol, sgiliau acrobatig a 'parkour'. Mae'r dosbarth hyn yn llai strwythuredig, oherwydd gallwch chi ddewis y sgiliau rydych chi am eu dysgu.

Sesiwn Tumble

Sesiwn gymnasteg yn benodol ar gyfer gymnastwyr sydd eisiau ganolbwyntio ar wella eu sgiliau tumble.

Sesiwn Hogiau

Sesiwn gymnasteg i fechgyn sydd eisiau sesiwn estynedig ac i ymarfer sgiliau penodol i bechgyn.

Sesiynau Ysgol Uwchradd

Gyda chefnogaeth Byw’n Iach a Gymnasteg Cymru, mae Dreigiau’r Dyffryn yn dechrau sesiwn ysgol uwchradd reolaidd, rhad ac am ddim, bob dydd Mawrth o 8pm-9pm.

Amserlen

Gweld amserlen sesiynau gymnasteg Dreigiau'r Dyffryn.