Grantiau Elusen Ogwen
Mae Dreigiau’r Dyffryn, y clwb gymnasteg i plant sydd wedi ei leoli yng Nghoed y Parc, Bethesda, bellach wedi cwblhau prosiect 3 blynedd, a ariannwyd gan 2 grant gan Elusen Ogwen. Mae'r prosiect wedi caniatáu iddynt osod goleuadau LED newydd sy'n arbed ynni yn eu campfa.
Yn ogystal â chynhyrchu golau cliriach a llawer mwy disglair, mae'r stribedi LED newydd yn defnyddio bron i 70% yn llai o ynni na'r stribedi fflwroleuol hŷn, a bydd hyn yn helpu'r clwb i leihau ei ddefnydd o ynni ac arbed arian.
Meddai Sophie Pipe, Cyfarwyddwr, “Roedd y clwb yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan Elusen Ogwen. Mae’n wych ein bod ni fel clwb gymnasteg lleol sy'n croesawu cymaint o blant o’r pentref, wedi gallu elwa ar gynllun hydro Ynni Ogwen ac elusen Elusen Ogwen. Bydd y goleuadau mwy effeithlon yn helpu’r clwb i gadw costau i lawr wrth i ni ehangu nifer y sesiynau a gynigir, a gyda nifer cynyddol o aelodau.”
01/02/25