Taith Gerdded Codi Arian 2025
Diweddariad: Codwyd cyfanswm o £1879! Diolch yn fawr iawn i bawb a'n helpodd i ragori ar ein targed!
Atgoffyn!
Peidiwch ag anghofio y daith gerdded noddedig, mae hi'n benwythnos yma, ddydd Sadwrn!
- Mae bws o Fethesda, yn gadael yr hen Spar (Strydd Mawr Methesda) am 10:25yb, Glan Frydlas (lle gallwch barcio - talu ac arddangos) am 10:26yb ac yna Llyn Ogwen (Bwthyn Ogwen) am 10:36yb.
- Cyfarfod am 10:45yb i ddechrau am 11:00yb.
- Dewch ag arian ar y diwrnod i'w roi i Sophie.
- Anfonwch neges neu e-bost i adael i mi wybod eich bod yn dod.
- Gobeithio bydd pawb yn cefnogi'r digwyddiad.
Mae Dreigiau'r Dyffryn wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn grant wedi rhan-ariannu gan Chwaraeon Cymru a'r Loteri Genedlaethol i brynu offer gymnasteg newydd.
- Blociau inclein.
- 'Springboard' cystadleuaeth.
- 'Springboard' hyfforddi.
- 'Beams' cystadleuaeth x 2.
- Matiau glanio.
- Bar uchel addasadwy.
- Nawr mae angen codi £1,232.00 arall!
Helpwch ni i godi’r arian sy’n weddill drwy gymryd rhan yn ein taith gerdded noddedig o Bwthyn Ogwen i Ddreigiau’r Dyffryn (ar hyd Lôn Las Ogwen). Os na allwch fynychu ar y diwrnod, plis daliwch i'n helpu i godi arian.
- Dyddiad: Dydd Sadwrn 29 Mawrth.
- Amser: 10:45am i ddechrau am 11:00am.
- Cyfarfod: Cyfarfod yng Nghaffi Bwthyn Ogwen (Bwthyn Ogwen) ar yr A5, ym mlaen Dyffryn Nant Ffrancon.
- Pellter: 5 milltir (2 awr).
- Goruchwyliaeth: Mae rhieni plant cynradd yn gyfrifol am eu plant eu hunain yn ystod y daith gerdded, a rhaid iddynt fod yng nghwmni rhywun ar hyd y llwybr. Gall gymnastwyr mewn ysgol uwchradd gerdded heb gwmni. Bydd ein hyfforddwyr yn mynd gyda pawb ar hyd y llwybr.
- Ffurflenni noddi: Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i gymnastwyr yn y gym yr wythnos nesaf ac maent hefyd ar gael i'w hargraffu o'r ddolen isod.
- Yn dod â: nain/taid, brodyr, chwiorydd a ffrindiau gyda ni gan y bydd gennym The Desert Shack y tu allan yn y gampfa i ddarparu wafflau blasus ar werth ar ôl y daith gerdded!
27/02/25